Mathew 22:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’

5. Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach.

6. A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd.

7. Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.

Mathew 22