Mathew 22:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.

34. Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.

35. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,

36. “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?”

37. Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’

Mathew 22