Mathew 22:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.

12. Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud.

13. Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, ‘Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’

14. Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.”

15. Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.

Mathew 22