Mathew 20:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”

29. Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef.

30. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”

31. Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”

Mathew 20