Mathew 20:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi,

28. fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”

29. Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef.

30. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”

Mathew 20