Mathew 19:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy,

14. ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.”

15. Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.

Mathew 19