Mathew 15:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir.

14. Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.”

15. Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.”

16. Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall?

17. Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy?

Mathew 15