Mathew 13:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.

7. Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu.

8. A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.

9. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.”

10. Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?”

Mathew 13