Mathew 13:45-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych.

46. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.

47. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math.

48. Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.

49. Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn,

Mathew 13