Mathew 10:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai.

28. A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern.

29. Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad.

30. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo.

Mathew 10