Mathew 10:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. “Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr.

25. Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?

26. “Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.

Mathew 10