Mathew 10:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd.

19. Pan draddodant chwi, peidiwch รข phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru.

20. Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi.

21. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.

22. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

Mathew 10