Marc 9:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.”

25. A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. “Ysbryd mud a byddar,” meddai wrtho, “yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto.”

26. A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw.

Marc 9