Marc 7:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef.

26. Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch.

27. Meddai yntau wrthi, “Gad i'r plant gael digon yn gyntaf; nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.”

28. Atebodd hithau ef, “Syr, y mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.”

Marc 7