Marc 6:54-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

54. Pan ddaethant allan o'r cwch, adnabu'r bobl ef ar unwaith,

55. a dyma redeg o amgylch yr holl fro honno a dechrau cludo'r cleifion ar fatresi i ble bynnag y clywent ei fod ef.

56. A phle bynnag y byddai'n mynd, i bentrefi neu i drefi neu i'r wlad, yr oeddent yn gosod y rhai oedd yn wael yn y marchnadleoedd, ac yn erfyn arno am iddynt gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. A phawb a gyffyrddodd ag ef, iachawyd hwy.

Marc 6