Marc 14:70-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

70. Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, “Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti.”

71. Dechreuodd yntau regi a thyngu: “Nid wyf yn adnabod y dyn hwn yr ydych yn sôn amdano.”

72. Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, “Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe'm gwedi i deirgwaith.” A thorrodd i wylo.

Marc 14