Marc 14:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Ond taerai yntau'n fwy byth, “Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth.” A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd.

32. Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.”

33. Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys,

34. ac meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.”

Marc 14