Marc 14:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Gyda'r nos daeth yno gyda'r Deuddeg.

18. Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy'n bwyta gyda mi.”

19. Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, “Nid myfi?”

20. Dywedodd yntau wrthynt, “Un o'r Deuddeg, un sy'n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl.

21. Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni.”

22. Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi iddynt, a dweud, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.”

Marc 14