Marc 14:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?”

13. Ac anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i'r ddinas, ac fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef,

14. a dywedwch wrth ŵr y tŷ lle'r â i mewn, ‘Y mae'r Athro'n gofyn, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

15. Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu'n barod; yno paratowch i ni.”

16. Aeth y disgyblion ymaith, a daethant i'r ddinas a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

17. Gyda'r nos daeth yno gyda'r Deuddeg.

18. Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy'n bwyta gyda mi.”

19. Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, “Nid myfi?”

20. Dywedodd yntau wrthynt, “Un o'r Deuddeg, un sy'n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl.

Marc 14