38. Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd,
39. a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd.
40. Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”
41. Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth.