4. Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.
5. Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?”
6. Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.
7. Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.
8. Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.
9. Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
10. Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;Hosanna yn y goruchaf!”