Marc 11:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml.

17. A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd,ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?”

18. Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.

19. A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.

20. Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21. Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”

22. Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw;

Marc 11