Marc 11:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno.

13. A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys.

14. Dywedodd wrtho, “Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!” Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando.

Marc 11