Marc 10:51-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

51. Cyfarchodd Iesu ef a dweud, “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Ac meddai'r dyn dall wrtho, “Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.”

52. Dywedodd Iesu wrtho, “Dos, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” A chafodd ei olwg yn ôl yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.

Marc 10