Marc 10:41-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

41. Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth Iago ac Ioan.

42. Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, “Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt.

43. Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,

44. a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb.

45. Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”

Marc 10