Marc 10:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Meddai Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl,

30. na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.

31. Ond bydd llawer sy'n flaenaf yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.”

Marc 10