Marc 1:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws.

34. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.

35. Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo.

36. Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano;

Marc 1