Marc 1:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.

17. Dywedodd Iesu wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.”

18. A gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.

19. Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; yr oeddent wrthi'n cyweirio'r rhwydau yn y cwch.

Marc 1