Luc 9:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.

9. Ond meddai Herod, “Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?” Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef.

10. Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida.

11. Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei ôl. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacháu'r rhai ag angen gwellhad arnynt.

12. Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, “Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma.”

13. Meddai ef wrthynt, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy, “Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn.”

14. Yr oeddent ynghylch pum mil o wŷr. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Parwch iddynt eistedd yn gwmnïoedd o ryw hanner cant yr un.”

15. Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd.

16. Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.

17. Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.

18. Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, “Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?”

19. Atebasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.”

Luc 9