Luc 9:57-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

57. Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.”

58. Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.”

59. Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi.” Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.”

60. Ond meddai ef wrtho, “Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw.”

Luc 9