Luc 8:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg.

18. Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo.”

19. Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa.

Luc 8