Luc 7:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Daeth y ddau ato a dweud, “Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, ‘Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?’ ”

21. Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlâu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion.

22. Ac atebodd ef hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.

23. Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i.”

24. Wedi i negesyddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

Luc 7