12. Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.”
13. Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith.
14. Gorchmynnodd Iesu iddo beidio â dweud wrth neb: “Dos ymaith,” meddai, “a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”
15. Ond yr oedd y sôn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu clefydau.
16. Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gweddïo.
17. Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu.
18. A dyma wŷr yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu.