5. Ond dal i daeru yr oeddent: “Y mae'n cyffroi'r bobl â'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma.”
6. Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;
7. ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8. Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.
9. Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.
10. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig.