Luc 23:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.”

36. Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,

37. a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.”

38. Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”

39. Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”

Luc 23