Luc 23:31-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. “Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?”

32. Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef.

33. Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo.

34. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.

35. Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.”

36. Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,

37. a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.”

38. Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”

39. Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”

40. Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?

41. I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.”

42. Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.”

Luc 23