Luc 22:60-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

60. Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog.

61. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.”

62. Aeth allan ac wylo'n chwerw.

63. Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro.

64. Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, “Proffwyda! Pwy a'th drawodd?”

65. A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.

Luc 22