Luc 22:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo.

6. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef iddynt heb i'r dyrfa wybod.

7. Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg.

8. Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.”

9. Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?”

Luc 22