Luc 22:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi;

30. cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel.

31. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd;

32. ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.”

Luc 22