Luc 20:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”

9. Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir.

10. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

Luc 20