Luc 20:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

11. Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

12. Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan.

13. Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’

Luc 20