Luc 18:33-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. ac wedi ei fflangellu lladdant ef, a'r trydydd dydd fe atgyfoda.” Nid oeddent hwy yn deall dim o hyn;

34. yr oedd y peth hwn wedi ei guddio rhagddynt, a'i eiriau y tu hwnt i'w hamgyffred.

35. Wrth iddo nesáu at Jericho, yr oedd dyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota.

36. Pan glywodd y dyrfa yn dod gofynnodd beth oedd hynny,

37. a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.

38. Bloeddiodd yntau, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.”

Luc 18