Luc 12:57-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

57. “A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn?

58. Pan wyt yn mynd gyda'th wrthwynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar.

59. Rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf un.”

Luc 12