Luc 11:37-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. Pan orffennodd lefaru, gwahoddodd Pharisead ef i bryd o fwyd yn ei dŷ. Aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd.

38. Pan welodd y Pharisead nad oedd wedi ymolchi yn gyntaf cyn bwyta, fe synnodd.

39. Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Yr ydych chwi'r Phariseaid yn wir yn glanhau tu allan y cwpan a'r ddysgl, ond o'ch mewn yr ydych yn llawn anrhaith a drygioni.

40. Ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd?

41. Ond rhowch yn elusen y pethau sydd y tu mewn i'r cwpan, a dyna bopeth yn lân ichwi.

42. Ond gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys a rhyw a phob llysieuyn, ond yn diystyru cyfiawnder a chariad Duw, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, ond heb esgeuluso'r lleill.

43. Gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd.

44. Gwae chwi, oherwydd yr ydych fel beddau heb eu nodi, a phobl yn cerdded drostynt yn ddiarwybod.”

45. Atebodd un o athrawon y Gyfraith ef, “Athro, wrth ddweud hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau.”

46. Meddai ef, “Gwae chwithau athrawon y Gyfraith, oherwydd yr ydych yn beichio pobl â beichiau anodd eu dwyn, beichiau nad yw un o'ch bysedd chwi byth yn cyffwrdd â hwy.

Luc 11