Luc 11:35-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. Ystyria gan hynny ai tywyllwch yw'r goleuni sydd ynot ti.

36. Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo â'i llewyrch.”

37. Pan orffennodd lefaru, gwahoddodd Pharisead ef i bryd o fwyd yn ei dŷ. Aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd.

38. Pan welodd y Pharisead nad oedd wedi ymolchi yn gyntaf cyn bwyta, fe synnodd.

Luc 11