Luc 1:62-66 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

62. Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.

63. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.

64. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.

65. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;

66. a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.

Luc 1