Luc 1:61-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

61. Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.”

62. Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.

63. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.

64. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.

65. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;

66. a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.

67. Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn:

Luc 1