Luc 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn gymaint â bod llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith,

2. fel y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o'r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair,

3. penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus,

Luc 1