Lefiticus 27:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Os bydd rhywun yn rhyddhau rhywfaint o'r degwm, y mae i ychwanegu pumed ran ato.

32. Y mae holl ddegwm gyr neu ddiadell, sef y degfed anifail sy'n croesi o dan y ffon, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

33. Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.’ ”

34. Dyma'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel ar Fynydd Sinai.

Lefiticus 27