Lefiticus 25:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. Nid wyt i fenthyca arian iddo ar log nac i werthu bwyd iddo am elw.

38. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft i roi iti wlad Canaan, ac i fod yn Dduw iti.

39. “ ‘Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn ei werthu ei hun iti, paid â'i orfodi i weithio iti fel caethwas.

40. Y mae i fod fel gwas cyflog neu ymsefydlydd gyda thi, ac i weithio gyda thi hyd flwyddyn y jwbili.

41. Yna y mae ef a'i deulu i'w rhyddhau, a bydd yn dychwelyd at ei lwyth ei hun ac i dreftadaeth ei hynafiaid.

Lefiticus 25